Nowość

Opis
Opis
Telynegwraig a sgwennwr caneuon oedd Ann Fychan a fu farw yn 2025. Mae'r gyfrol yn cynnwys teyrngedau a phortreadau a detholiad o'i cherddi a phenillion. Gwraig egni¨ol a fu'n un o wir gynheiliaid y diwylliant Cymraeg ym Maldwyn a thu hwnt, un o se^r Talwrn y Beirdd am gyfnod hir, a'r bardd a luniodd eiriau un o ganeuon enwocaf y grw^p Plethyn.
Cyfrannodd Ann i ddiwylliant ei hardal ym Maldwyn a Chymru gyfan gydol ei hoes. Lluniodd bytiau hunangofiannol am ei phlentyndod ym mhentre Pennant, Llanbryn-mair, cyn i'w rhieni, Islwyn a Gwyneira Lewis, benderfynu symud i'r Pandy yn yr un plwyf i gadw siop. Mae'r rheiny yn y gyfrol, yn ddarlun gwiw o blentyndod yn y cefndir a'r cyfnod hwnnw.
Roedd Ann yn hyfforddreg llefarwyr a beirniad mewn eisteddfodau ledled y wlad. Dychwelodd o'r Coleg Normal i fod yn athrawes yn y Drenewydd, Llanbryn-mair a Glantwymyn. Ar wahanol gyfnodau bu'n athrawes bro a dirprwy brifathrawes.
Mae'r gofal a'r parch at eiriau yn amlwg yn ei gwaith creadigol ei hun hefyd. Yn nyddiau Gerallt Lloyd Owen, roedd ef fel Meuryn yn dotio at y tinc telynegol oedd yn ei cherddi a'i phenillion telyn. Does ryfedd i Dafydd Wyn, ei chyd-aelod yn nhîm Talwrn y Beirdd Bro Ddyfi, ei galw yn 'llawforwyn crefft llefaru', gan gwblhau ei englyn â'r disgrifiad ohoni yn dysgu 'to 'rôl to nes troi y ty'n/ Athen i'n gwasanaethu'. Yr un yw byrdwn Gerallt Lloyd Owen yn ei englyn yntau iddi:
Canaf i'r un fu'n cynnal ei haelwyd a'i haelwyd yn ardal; ym min Dyfi mae'n dyfal gadw ty heb godi tâl.
Rhan o deyrnged i Ann Fychan (1941–2025), Barn Tachwedd 2025
'Arferai lunio cerddi yn y mesurau rhydd ac roedd graen arbennig ar ei gwaith bob amser, yn enwedig penillion ar batrwm y penillion telyn, telynegion a'i cherddi ysgafn. Wele un pennill telyn sy'n nodweddu'i chrefft:
Cododd Deio'n gynnar, gynnar, Codi'n gynt na'r haul a'r adar, Ond ni chododd ddigon bore I ddal Mari Llwyn yr Hendre.
Yn ogystal ag ysgrifennu geiriau ar gyfer talyrnau, lluniodd Ann ddegau o eiriau caneuon ar gyfer grwpiau canu ysgafn, lleol a chenedlaethol. Y geiriau enwocaf o blith y rheini yw cân anthemig Plethyn 'Beth am gynnau tân fel y tân yn Llyn?''
Ann Fychan was a lyricist and songwriter who died in 2025. The volume includes tributes and portraits and a selection of her poems and verses.

Szczegóły
Szczegóły
Data wydania: 23.07.2026
Liczba stron: 120
Wymiary: 12.8x19.8
Typ okładki:miękka okładka
Wydawca: Gwasg Carreg Gwalch
Tytuł:Beth am gynnau tan: Atgofion a cherddi Ann Fychan
EAN: 9781845248000
Recenzje
Recenzje
Produkt nie ma jeszcze recenzji.
Zamieszczenie recenzji nie wymaga logowania. Sklep nie prowadzi weryfikacji, czy autorzy recenzji nabyli lub użytkowali dany produkt.
Nasza cena:49,11 zł
Wybierz opcję
- 1
- 2
- 3
- 4
- 5
- 6
- 7
- 8
- 9+
Wysyłamy w 5-7 dni
Dostawa do księgarni0 zł
Sprawdź koszt dostawy