Pan mae Ana yn gadael ei theulu a'i chartref er mwyn dianc rhag hunllefau rhyfel, dyw setlo yn ei chartref newydd gydag Olwen a'i theulu ddim yn hawdd. Rhaid i Olwen ddysgu arfer â chwmni Ana, ond wrth i'r merched dynnu lluniau gyda'i gilydd, daw Olwen i sylweddoli beth mae Ana wedi'i adael ar ôl. Mae wedi gorfod aberthu popeth er mwyn bod yn ddiogel, ac mae Olwen am ei helpu. Bob yn dipyn, mae caredigrwydd a chariad Olwen yn dod â lliw yn ôl i fyd Ana.