Dostawa 0 zł do sieci księgarń

Bezpłatna wysyłka powyżej 149 zł

Gwarancja zadowolenia z zakupów

Tryb offline
Opis

Opis

Mae Dau yn nofel dawel, gynnil ac iddi ddyfnder profiad ac emosiwn. Stori am gynefin a pherthyn, am gyfrinachau a ffyddlondeb, am ofnau ac amheuon, ond goruwch popeth, am ofal a chariad. Stori'r ddau efaill Wiliam a Gwen, y ddau olaf o 'ddwsin dedwydd' fferm y Nant. Trwy eu llygaid nhw profwn y newid a welir ar yr aelwyd ac o fewn cymuned wledig sefydledig dros gyfnod o flynyddoedd.

Daeth y nofel hon yn agos i'r brig yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Rhonddo Cynon Taf yn Awst 2024. Meddai'r beirniaid amdani: 'Mae yma stori gref, wedi ei hadrodd mewn arddull bwyllog ofalus ac adnabyddiaeth o fyd natur a byd amaeth yn llifo'n naturiol iawn drwy'r ysgrifennu. Roedd darllen y nofel yn arafu rhywun ... Nofel sydd yn brofiad i'w darllen' (John Roberts); 'Nofel ... glasurol ei hiaith ... cryfder [y nofel] yw ei harddull ymataliol ... a'i hawyrgylch diamser ... Mae yma lenor hyderus sy'n ddigon sicr o'i grefft ac â digon o ffydd yn y darllenydd fel nad yw'n teimlo rheidrwydd i esbonio rhediad ei stori, gam wrth gam' (Annes Glynn); 'mae'r portread o gymuned sy'n prysur ddiflannu yn un ingol o'r dechrau ... [p]ortread pwerus o golli urddas ... dyma awdur sydd yn deall pwer peidio esbonio'r cyfan, a gadael i'r darllenydd ddychmygu'r datrysiad ... nofel a chanddi graidd emosiynol sy'n cydio, â'r cariad rhwng yr efeilliaid yn cynnal y cyfan' (Elen Ifan).

Dau is a story about living and belonging, about secrets and fears, about trusting and doubting, but ultimately, about love and care. At its core is the sibling relationship between Wiliam and Gwen, two elderly twins, and through their eyes we witness the change witnessed over many years within an established rural community.


Recenzje

Recenzje

Produkt nie ma jeszcze recenzji.

Zamieszczenie recenzji nie wymaga logowania. Sklep nie prowadzi weryfikacji, czy autorzy recenzji nabyli lub użytkowali dany produkt.

Nasza cena:60,00 zł

Wybierz opcję
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9+
Wysyłamy w 5-7 dni
Dostawa do księgarni
0 zł
Sprawdź koszt dostawy
accessible